"AC wrth i Ddawns Patuá arwain y ffordd fuodd fawr o dro cyn i'r pentre cyfan ddawnsio i guriad y drwm." |
Y mae Dawns Patuá yn gwmni dawns-theatr lliwgar a dyfeisgar gyda dull theatraidd unigryw sydd yn cyfuno dawns, theatr a cherddoriaeth gan gymysgu arddulliau o ddiwylliannau Lladin ac Ewropeiaidd
Ffurfiwyd Dawns Patuá yn 1993 gan y ddawnswraig a choreograffydd Brasilaidd Fernanda Amaral gyda'r nod o ddefnyddio unrhyw fan i berfformio a mynd â pherfformiadau allan o'u cynefin cyffredin ac i mewn i'r strydoedd a chanolfannau siopau a chynadleddau
Y mae Dawns Patuá wedi perfformio mewn rhai o ŵyliau mwyaf pwysig y DU gan gynnwys WOMAD (Lloegr, Sbaen, Prâg, DU, Ynysoedd Canaria) Glastonbury (Lloegr), Padrig Sant (Dulyn), Gŵyl Caeredin, La Marato (Barcelona), X-Track International Theatre Festival (Manceinion). Hefyd y mae Patuá wedi arwain gweithdai a pherfformio mewn llawer o garnifalau megis Reading, Belfast a Chaerdydd
Y mae Dawns Patuá wedi perfformio'n fyw gyda llawer o fandiau o gerddoriaeth glasurol Cerddorfa Genedlaethol Cymru i sêr drymio Brasilaidd Olodum gyda'u samba reggae. Y mae Dawns Patuá hefyd wedi ymddangos lawer gwaith ar deledu Cymreig, Prydeinig ac Ewropeiaidd.
Y mae perfformiadau Dawns Patuá llawn pethau annisgwyl gyda dawnswyr, cerddorion byw a gwisgoedd lliwgar fydd yn difyrru'r gynulleidfa a chodi gwên gan bywiocáu unrhyw ddigwyddiad!
Mae'r rhan fwyaf o berfformiadau Dawns Patuá yn symud o le i le heb gymorth technegol allanol. Gallwn berfformio bron unrhywle!
Y mae Dawns Patuá yn cymysgu dulliau Lladin ac Ewropeiaidd megis dawns Affro-Brasilaidd, Commedia dell'Arte a Charnifál er mwyn creu sioeau stryd doniol a hynod. Mae'r perfformiad yn cynnwys cymeiriadau wedi'i gwisgo'n berffaith gydag ymddygiad braidd yn ecsentrig. Maen nhw'n ymddangos yn ddi-rybudd yn y llefydd mwyaf annisgwyl gan achosi i'r gwylwyr chwerthin gyda'u golwg rhyfedd ac ymddygiad Lladin dros ben llestri. Mae arddul y perfformiad yn fywiog a llawn hwyl ac yn sicr o ennyn diddordeb y cyhoedd o fabanod i'r neiniau a theidiau.
Y mae Dawns Patuá yn perfformio gyda cherddorion byw a dawnswyr gyda gwisgoedd a gwrthrychau lliwgar i greu awyrgylch carnifál Brasilaidd. Mae cymeiriadau difyr a ffraeth Dawns Patuá yn bywiocáu unrhyw ddigwyddiad awyr agored neu baréd carnifál. Mae gan Dawns Patuá brofiad helaeth o greu carnifalau gydag ystod eang o gymunedau gan gynnwys pobl o bob oedran, cefndir a gallu
"Wrth i Ddawns Patuá arwain y ffordd fuodd fawr o dro cyn i'r pentre cyfan ddechrau dawnsio i guriad y drwm", Herald Wales
"Mae eu dulliau nhw yn deillio o'r cred bod dawns yn iaith gyffredin sydd yn hybu hapusrwydd ffordd o chwerthin gyda'n cyrff", South Wales Echo
Y mae Dawns Patuá yn cynnig ystod o weithdai a chyfnodau preswyl fydd, heb os nac onibai, yn codi pobl ar eu traed er mwyn symud a dawnsio gyda'r holl gorff.
Mae gweithdai ar gael i bawb o bob oedran, gallu a phrofiad.
Y gweithdai dawns Affro-Brasilaidd ac Ymwybyddiaeth y Corff wedi'i arwain gan Fernanda Amaral, cyfarwyddydd artistig Dawns Patuá, yw gweithdai mwyaf poblogaidd y cwmni.
Y mae Fernanda Amaral yn cynnal dosbarthiadai dawns Affro-Brasilaidd rheolaidd yng Nganolfan Celfyddydau Chapter fel arfer ar Nos Fercher o 7.30 i 9.30. Mae'r dosbarth yn agored i bawb o bob oedran, gallu a phrofiad a bydd cyfle i fynychwyr ymuno â Dawns Patuá ar gyfer carnifalau a sioeau stryd. Ffoniwch swyddfa Patuá am fwy o wybodaeth 029 2022 2189.
Y mae Dawns Patuá wedi gweithio'n helaeth mewn llawer o ysgolion yn y DU ac Iwerddon yn ystod y 15 mlynedd diwethaf gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig, colegau a phrifysgolion. Mae pob gweithdy yn cael ei gyflwyno mewn arddull llawn hwyl gan annog mynychwyr o bob gallu i gymryd rhan. Er mwyn deall y cyd-destun creadigol a diwylliannol mae gweithdy hefyd yn bwrw golwg dros hanes Brasil, ei dawns, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Y mae cysylltiadau ar draws y cwricwlwm yn bosibl gyda phynciau megis Ymarfer Corff, Cerddoriaeth, Celf, Hanes, Daearyddiaeth a hefyd Mathemateg!
Mae gan Dawns Patuá brofiad helaeth o drefnu prosiectau aml-gallu gan uno disgyblion o ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd i weithio trwy gelfyddydau gwahanol gan ddod i ben mewn perfformiadau mawr neu fach.
Dolen i waith diweddar yn Ysgol Gymraeg Treganna (lluniau a fideo) Hefyd y mae gweithdai yn gallu bod yn rhan o gwricwlwm celfyddydau perfformio achos bod llawer o'r gweithdai yn gorffen mewn perfformiad sydd yn cynnwys disgyblion a staff. Y mae hwyluswyr yn arbennigwyr gyda grwpiau mawr ac mae perfformaidau yn gallu cynnwys pob disgybl yr ysgol, neu hyd yn oed, dwy ysgol. Anogir athrawon i gymryd rhan yn y gweithdai ac mae sesiynau hyfforddiant ar gael. Y mae gan Fernanda Amaral, cyfarwyddydd artistig Dawns Patuá, gymhwysterau athrawes gyda BEd o Brifysgol Caerdydd a phrofiad o hyfforddiant INSET ar gyfer athrawon.
Y mae prosiectau yn gallu para un diwrnod, sawl diwrnod neu estyn dros gyfnod o nifer o wythnosau gan gyfuno dawns, creu cerddoriaeth ac adrodd straeon. Y mae'r cwmni yn gweithio gyda thîm o artistiaid ardystiedig a phrofiadol.
Dysgu am Brasil a'i diwylliant
Datblygu hunan-ymwybyddiaeth a hyder
Annog a Datblygu Sgiliau Gwrando
Gwenend cysylltiadau â chefndiroedd diwylhiant y myfyrwyr eu hunain
Gwenend cysylltiadau gyda phynciau ar draws y cwricwlwm
"Braidd yn ofnus i ddechrau ond mwynheuais mas draw erbyn y diwedd. Roedd yn dda cael sesiwn heb y plant. Roed o gymorth i beidio â phoeni am ei wneud e gyda'r plant. Roedd yn wych dulliau dysgu da!"
"Roedd o gymorth i ymarfer heb y plant i ddechrau! Roedd yn hwyl ond hefyd llawn gwybodaeth. Athrawes fendigedig!"
"'Roedd yn gip diddorol ar sut mae diwylliant yn mynegi ei hunan trwy ddawns a cherddoriaeth."
"'Roedd yn syniad ardderchog i ddechrau gydag ymarferion massage!"
"Mae'r plant dal i ymarfer eu dawnsio Brasilaidd yn y buarth!"
Athrawon Ysgol Arbennig mewn prosiect a gyfunodd galluoedd:
"Disgleiriodd gallu Fernanda i ddal sylw'r plant a gwneud y gorau o'u medrau."
"Mwynheuodd pob un o'r digyblion y sesiynau a sylwais yr effeithiau canlynol yn para am weddill yr wythnos: sylw a dysgu, sgiliau cymdeithasol, edrych i'r llygaid, cyfathrebu ag oedolion."
Therapydd Llefaru ac Iaith: "Dysgon nhw sut i ddefnyddioo eu cyrff mewn llawer o ffyrdd llawn hwyl er mwyn creu dawnsfeydd er mwyn gweithio gyda mwy o reolaeth a gwneud cyfres o symudiadau dawns."
"Oherwydd y potensial anferth sydd gan y math yma o ddawns i hwyluso datblygiad sgiliau cymdeithasol mae'n ffordd ardderchog i gyfuno disbyblion y ddwy ysgol yn yr un prosiect."
Prosiect 'cyfuno galluoedd' gydag ysgol gynradd ac ysgol gynradd arbennig Sylwadau'r disbyblion:
"Rwy wedi dysgu mod i'n gallu gwneud dawns Brasilaidd."
"Dysgais i lawer o bethau oddi wrth Fernanda doeddwn i erioed wedi gwneud o'r blaen."
Roeddwn i'n meddwl eu bod nhw'n wych. Roedd y dawnsio yn gwneud i fi wenu."
"Rwyf yn gallu argymell gweithdai Dawns Patuá ar gyfer unrhyw ysgol, fel ffordd o gyfoethogi Cerddoriaeth, Dawns yn ogystal ag elfennau gwahanol y Cwricwlwm Cenedlaethol" Mr B K Jones, Pennaeth, Ysgol Gynradd Pontygof, Glyn, Ebwy.
"Yr wyf yn falch o argymell Dawns Patuá a Fernanda Amaral. Y mae ysgolion wedi bod yn hapus iawn gyda'i gwaith, yn arbennig y ffordd y mae hi'n gallu cyfathrebu gydag ystod eang o alluoedd. Mae gan Fernanda agwedd proffesiynol tuag at ei gwaith. Mae hi'n ddibynadwy ac yn ymroddedig i'r prosiect y mae hi'n gweithio arno." Judith Beck, Cydlunydd, Addysg Ar ôl Ysgol, Cyngor Dinas Caerdydd
"'Rwyf yn nabod Fernanda Amaral a Dawns Patuá ers naw mlynedd ac wedi dilyn llwyddiant ei menter dawns cymunedol. Gwelais hefyd fwynhád pawb a gymherodd ran yn y gweithdai a sut mae pobl o bob oedran, gallu a hyder yn eu cyrff yn tyfu fel unigolion trwy gymryd rhan." Paul Keeping, Rheolwr Marchnata, Hamdden ac Addysg Gydol Oes, Cyngor Dinas Caerdydd
"Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn a chreuodd proffesiynoldeb ac ymwryddiad Fernanda gryn argraff ar y digyblion a'r ysgolion." Michael Goode, Education Extra
Roedd sesiynau Patuá yn llwyddiant yn ein meithrinfa yn ddiweddar a bydda i yn ei argymell i eraill. Fel o'r blaen roedd syniadau Fernanda yn ysymbyliad gwerthfawr i'r plant yn ogystal â'r staff. Er bod y plant mor ifanc, dim on 3 neu 4 mlwydd oed, ymatebon nhw yn frwd i awgrymiadau Fernanda a chafodd eu hysbrydoli'n fawr gan y gerddoriaeth a'r gwrthrychau. Rhoddodd hi lawer o syniadau i'r staff i'w datblygu yn y dyfodol." Linda Chandala, on behalf of Cadoxton Nursery School
Roedd llawer o'r disgyblion wedi symud ymlaen yn aruthrol; cafodd sgiliau modur bras a mân eu herio a'u gwella, codwyd hunan-barch yn fawr trwy gymryd rhan a chafodd sgiliau gwrando eu miniogi. Roedd y cyfan wedi'i gyflawni mewn ffordd bywiog a llawn hwyl. Byddwn yn argymell Dawns Patuá i ysgolion eraill heb unrhyw amheuaeth. Amanda Smith, Pennaeth Riverbank
Era Uma Vez (Amser Maith Yn ôl)
Mae'r sioe lliwgar hon yn defnyddio chwedleua a dawns i adrodd rhai o storïau brodorion gwreiddiol Brasil gan gymysgu dawns, cerddoriaeth a ieithoedd. Mae'r gynulleidfa yn mynd ar daith i Brasil yng nghwmni cymeiriadau gwahanol a'u gwisgoedd, gwrthrychau a'r iaith Bortiwgaleg. Creuwyd y sioe ar y cyd rhwng Fernanda Amaral, cyfarwyddydd artistig Brasilaidd Dawns Patuá a Michael Harvey.
Perfformiad gwefreiddiol gyda straeon, dawns a cherddoriaeth a hynny i gyd yn Gymraeg a Portiwgaleg. Profiad bythgofiadwy i'r disgyblion a'r staff. Rhian Jones, Pennaeth, Ysgol y Berllan Deg
Perfformiad diddorol iawn roedd ein digyblion i gyd wedi dwli ar y gwisgoedd lliwgar a'r gwrthrychau. Roeddynt wedi'u cyfareddu yn ystod yr awr gyfan. Dirprwy, Christ the King RC Primary School
Mae Michael Harvey yn storïwr Cymreig cydnabyddedig sy wedi bod gyda'r cwmni ers y cychwyn cyntaf. Mae ganddo brofiad helaeth o berfformio ac arwain gweithdai adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol. Yn ddiweddar Mae Michael wedi bod yn gweithio yn Brasil gyda Fernanda Amaral gan roi iddo ddealltwriaeth o ddiwylliant a iaith Brasil. Bydd yn adrodd mythau a chwedlau Brasil i'r plant a bydd yn eu hannog i wneud cymhariaethau gyda'u diwylliant a chefndir ei hunain.
Mae "Era Uma Vez" ar gael yn Saesneg a 'r Gymraeg gydag elfennau o Bortiwgaleg, yr iaith a siaredir yn Brasil, ac fel dilyniant y mae'r cwmni yn cynnig gweithdai dawns Affro-Brasilaidd a/neu ysgrifennu creadigol a chwedleua i ddysgwyr ail-iaith. Yn eu gweithday y mae Fernanda a Michael yn annog y plant i weithio'n unigol ac mewn grwpiau er mwyn creu eu dawnsfeydd a'u straeon eu hunain.
Hybu hunan-hyder creadigol y disgyblion fel unigolion ac mewn grŵp yw nod y perfformiadd yn ogystal ag edrych ar themáu megis byw mewn cymdeithas aml-ddiwylliannol yn ogystal â bod yn berthnasol i elfennau llythrennedd, dawns/ymarfer corff a daearyddiaeth y cwricwlwm.
Mae Fernanda a Michael yn arweinwyr gwethdai profiadol iawn ac mae ganddynt raddau yn Hyfforddiant Galwedigaethol o Brifysgol Caerdydd ac yn gallu cynnig gweithdai hyforddiant INSET ar gyfer athrawon.
Dathlodd Dawns Patuá ei ben-blwydd yn ddeng mlwydd oed gyda chyfnewidiad rhwng Cymru a Brasil. Buodd hyn yn fan cychwyn ar gyfer mwy o gydweithrediad gyda Brasil. Ar gyfer ei ail ddegawd y mae'r cwmni yn rhagweld tyfiant yn ei gwaith yn y maes hwn.
Ar gyfer rhan gyntaf y cyfnewidiad diwylliannol daeth y cwmni â Cupuaçu, grŵp dawns a cherddoriaeth gwerin o Maranhão yn Brasil i weithio yng Nghymru yn Medi/Hydref 2003. Ar ôl hynny aeth Dawns Patuá i Brasil yn Chwefror/Mawrth 2004 er mwyn perfformio mewn 10 o barciau awyr agored yn São Paulo a Santos yn ogystal â rhoi gweithdai. Cafodd Dawns Patuá dderbyniad positif iawn gan gynulleidfaoedd gwahanol a'r wasg genedlaethol.
Nod Dawns Patuá oedd i gyrraedd cymaint o bobl a oedd yn bosibl gyda'r prosiect. Roedd y prosiect cyfnewidiad diwylliannol yn un eang iawn gyda Cupuaçu a Dawns Patuá yn ymweld â llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd o gwmpas Cymru gan weithio gydag oedolion a phlant. Hefyd rhoddon nhw gyfres o weithdai agored a pherfformiadau mewn nifer o ganolfannau yng Nghymru. Roedd y gweithdai wedi arwain ym Mhortiwgaleg gyda chyfieithiadau Saesneg a Chymraeg a ddaeth ag agwedd diddorol i'r sesiynau.
Mynychwyd y sesiynau gan amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys ysgolion aml-ddiwylliannol, ysgolion Cymraeg eu cyfrwng, pobl ifanc gyda phroblemau ymddygiad, pobl ifanc mewn hyfforddiant dawns ac hyfforddiant Inset i athrawon. Yn Brasil denodd sioeau Dawns Patuá sawl math o gynulleidfa gan gynnwys lawer o bobl ifanc, oedolion, a'r henoed o groestoriad eang cymdeithas. Roedd yn bosibl gweld menyw barchus wrth ochr putain ar bwys dyn digartref wrth ochr plentyn tlawd ac athrawon prifysgol i gyd yn gwylio ac yn mwynhau perfformiad Dawns Patuá. Hefyd berfformiodd ac arweiniodd y cwmni weithdy mewn favela yn São Paulo lle rydym yn trefnu i gydweithio yn y dyfodol.
"Dysgais i lawer"
"Yn dda i godi'r galon"
"Hwyl eithriadol! Proffesiynol iawn!"
"Profiad gwych a llawn hwyl o ddiwylliannau eraill"
"Rhoddodd e lawer o syniadau i fi ar gyfer fy nisgyblion fy hun"
" Roedd yn ddiddorol clywed am ddiwylliant Brasil o'r bobl ei hunain"
"On'd yw bywyd yn amrywiol?"
Roedd y teitl "Rydym ni i gyd yn yr un cwch" yn llythrennol wir ar gyfer cydweithrediad celf, chwedleua a dawns gan 160 o ddisgyblion rhwng 9 a 18 oed o ysgolion arbennig a phrif-ffrwd Cymreig.
Roedd penllanw eu hymdrechion yn berfformiadau mewn dau o ganolfannau pwysicaf y wlad; Canolfan y Mileniwm yng Ngaerdydd a Chanolfan Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Tywyswyd gan yr artist gweledol Megan Lloyd, y storïwr Michael Harvey a'r ddawnswraig Fernanda Amaral creuodd disgyblion o Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Bryn Deri, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Ysgol Erw'r Delyn, uned arbennig Ysgol Sant Julian ac Ysgol Gynradd Alway o Gaerdydd a Chasnewydd (rhai gyda anhawsterau dysgu a/neu problemau dysgu) long hwylio enfawr, straeon i'w hadrodd ynddi a dawnsfeydd i'w mynegi.
'Roedd yn brydferth iawn i'w weld achos bod y rhan fwyf o'r plant eirioed wedi bod mewn theatr o'r blaen heb sôn am fod ar y llwyfan' meddai Ms Amaral. 'Adroddodd un plentyn stori wir am ei hunan yn ffoi rhyfel a dod yma ar gwch. Dyfeisiodd eraill stori am achub mwncïod o'r sŵ, yn cael eu llyncu gan bysgodyn enfawr a dianc trwy beri i'r greadur tisian gyda phupur, ac wedyn glanio ar draeth Copocabana.'
'Roedd llawer o'r dawns pel-droed Brasilaidd a ddilynodd wedi'i greu gan y plant eu hunain' meddai.
'Roedd un bachgen mewn cadair olwyn ac wrth iddo symud ei hunan tuag at bump o blant eraill ar y llawr wnaethon nhw rowlio fel tasai fe yn eu gwthio nhw. Roebb yn bwerus iawn. Roedd plant oedd ddim yn gallu siarad yno eto roedd eu presenoldeb ar y llwyfan mor gryf roedd rhaid edrych arnyn nhw.'
Efallai bod cyfnod preswyl tair wythnos o hyd a pherfformiad Cwmni Dawns Andrea Severa o Buenos Aires yn galon tymor Latinoamerica yn Chapter gyda Disquis Tisquis o Costa Rica mewn ychydig o wythnosau fel rhyw fath o ôl nodyn ond mae cwpwl o ddathliadau diddorol iawn hefyd wedi bod o'r dolenni diwylliannol sydd yn bod yn barod rhwng Cymru ac America Lladin.
Tua ddwy wythnos yn ôl roedd Jill Greenhalgh yn siarad am y swyddogaeth cafodd y Prosiect Magdalena o Gymru o gynorthwyo trefnu gweithgareddau ar gyfer menywod ar yr ymylon mewn rhan o'r byd sydd efallai yn gyffrous ond sydd gallai hefyd bod yn beryglus a wedi'i domineiddio gan ddynion.
Nawr mae gannddon ni ferch o Brasil sy wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers dros ddeng mlynedd; siaradodd Fernanda Amaral yn garismataidd am ei gwaith gan gynnig detholiod o waith y cwmni anarferol hwn a'r cysylltiadau a ddatblygwyd rhwng Cymru ac America Lladin.
Beth sydd yn hynod yw bod y perthynas yn mynd y ddwy ffordd. Daeth Fernanda Amaral â'i brwdfrydedd dros ddawns Affro-Brasilaidd ac nawr mae Cymru yn mynd a'i chynnyrch cymysg nôl i Brasil ac wedyn dod â mwy o Brasil nôl i Gymru.
Calon gwaith Ms Amaral yw ei phwyslais ar iaith y corff. Dywedodd wrthyn ni mai dim ond pan gwrddodd hi â dawns pobl duon gogledd Brasil y syleddolodd bod ei hyfforddiant ballet clasurol o'r de ddim yr hyn 'roedd hi eisiau. Felly yn fuan iawn collodd rheolaeth a threfn i symudiadau rhywiol a rhydd a rhyddid y corff.
A dyna sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad Dawns Patuá fel y gwelon ni yn y cymysgedd difyr hwn o berfformiad byw a darnau fideo.
Mewn gwirionedd nid yw Ms Amaral yn gallu aros yn llonydd wrth iddi siarad â ni ac ar ôl cael gwahoddiad i ymuno cymerodd y rhan fwyaf o gynulleidfa Chapter y cyfle i wneud beth oedd, ar adegau, pastiche bizarre gwyn o symudiadau rhydd a rhywiol America Lladin.
Mae'r corff wrth wraidd gwaith Patuá ac mae'n ddiddorol gweld sut mae pobl Ewrop wedi cofleidio ethos Lladin fel rhyw fath o "arall" colledig. Rhan o fynegiant dynol rydym wedi'i golli wrth i ddawnswyr Patuá ddawnsio o'n cwmpas.
Gyda'r ddau ddawnswyr o America Lladin mae merch wych o Gaerdydd a allai fod o Brasil a dyn oedd yn edrych mor ymlaciedig â neb y noson honno o garnifal yn Nhreganna.
Mae'n bell iawn o agwedd Magdalena o ddefnyddio perfformiad fel arf gwleidyddiol ond efallai bod ymroddiad Patuá yn rhoi rhyddid mewn ffordd haws i'w cyrraedd i'r unigolyn.
Mae brwdfrydedd y cwmni yn heintus ac mae'r cip hwn ar ddawns, chwedleua a cherddoriaeth (roedd y band yn wych hefyd) wedi cyfleu arddull gweithgar, anffurfiol, llawn hwyl un o mentrau rhwng-ddiwylliannol llai hysbys Cymru.
Cysylltwch â Fernanda Amaral,
Dawns Patuá, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE, Cymru, DU
Ffôn/Ffacs +44 (0) 2920 222189 e-bost info@patuadance.co.uk
Please contact: Fernanda Amaral, Chapter, Market Road, Cardiff
CF5 1QE, Wales, UK
Telephone/Fax +44 (0) 2920 222189 email info@patuadance.co.uk